Canu rhydd

Barddoniaeth sydd ddim yn defnyddio'r mesurau caeth a mesurau cyffelyb yw canu rhydd, sy'n cynnwys y math a ddeilliodd o Ffrainc ac a elwir yn vers libre. Nid yw'n defnyddio patrymau na mesurau megis yr odl nac unrhyw batrwm cerddorol cyson. Mae felly'n tueddu i ddilyn rhythm lleferydd naturiol, ac yn gwbwl groes i'r mesur traddodiadol o rythm ac odl neu'r Pedwar Mesur ar Hugain.

Ysgrifennodd T. S. Eliot, "Nid oes unrhyw bennill yn gwbwl rhydd, i'r un sydd am wneud gwaith da." Dywedodd y bardd a'r beirniad Kenneth Allott fod mabwysiadu'r vers libre yn deillio o “ddim ond awydd am newydd-deb, dynwared Whitman, astudio pennill gwag dramatig Jacobeaidd, a'r ymwybyddiaeth o'r hyn yr oedd beirdd Ffrainc eisoes wedi'i wneud i'r 'alexandrin' yn Ffrainc." Sylwodd y beirniad Americanaidd John Livingston Lowes ym 1916" Gellir ysgrifennu pennill rhydd fel rhyddiaith hardd iawn; gellir ysgrifennu rhyddiaith fel pennill rhydd hardd iawn. Pa un yw?"


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search